SL(5)147 -  Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â thrwyddedu tynnu dŵr gan rai categorïau o bersonau, yn sgil diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) i Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57) (“Deddf 1991”). Mae’r diwygiadau hynny, sy’n dod i rym ar yr un dyddiad â’r Rheoliadau hyn, yn cyfyngu neu’n dileu eithriadau penodol o’r cyfyngiad ar dynnu dŵr yn Neddf 1991.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwaith craffu technegol

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig (Rheol Sefydlog 21.2 (ix).  Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau, sef Offeryn Statudol cyfansawdd, yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd.  Felly, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol [gan Weinidogion Cymru] i’r offerynnau hyn gael eu gwneud yn ddwyieithog.

2.   Mae rheoliad 5(2) yn cyfeirio at baragraff 2(3)(iv) o Atodlen 2 i Reoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu Dŵr a’i Gronni) 2006.  Dylai hyn gyfeirio at baragraff 2(3)(b)(iv).  Gan fod y bwriad yn glir, byddai wedi bod yn briodol cywiro hyn wrth ei gyhoeddi, pe na bai’r Rheoliadau eisoes wedi’u cyhoeddi.  (Rheol Sefydlog 21.2(vi))

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

3.    Mae troednodyn i reoliad 4(1) yn cyfeirio’r darllenydd at adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ar gyfer y diffiniad o “asiantaeth briodol”.  Gan mai’r esboniad yw Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â Chymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â Lloegr, byddai wedi bod yn fwy defnyddiol dweud hynny.

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

4.   Mae’r Rheoliadau yn cynnwys cyfeiriadau at ddosbarthiadau a diffiniad yng Nghyfarwyddeb 2000/60/EC o Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr.  Er y byddant yn parhau i weithio yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, bydd angen adolygu eu priodoldeb.  Bydd hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â dŵr, lle, fel yn yr achos presennol, mae angen sefyllfa gyffredin ar gyfer Cymru a Lloegr.  Byddai’n briodol i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio’r cyfeiriadau gan ddefnyddio’r pwerau y dibynnir arnynt i wneud y Rheoliadau hyn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Tachwedd 2017